Goresgyn anawsterau llythrennedd yn y dosbarth
Sillafu
Cysill Ar-lein :: Gwirydd Sillafu a Gramadeg Cymraeg
RHAI LLYFRAU DEFNYDDIOL:
Bright Ideas: Spelling (Scolastic)
M. L. Peters – Spelling: Cauthgt or Taught – a New Look (Routledge 1985)
C. Cripps – Catchwords (Harcourt Brace Javanovich)
Mike Torbe – Teaching Spelling (Ward Lock 1977)
Richard Gentry – Spel is a Four Letter Word (Scholastic 1987)
Michael Graves – A Word is a Word … or is it? (Scholastic 1985)
Rhai strategaethau i ddatblygu’r cof
Defnyddio’r synhwyrau:
Golwg – SACAWAC – Study and Cover and Write and Check
Clyw – gemau fel “Chinese Whispers” i ddatblygu’r sgil o wrando
Teimladau – olrhain siâp gair hefo’r bys yn yr awyr/mewn tywod, ymarfer llawysgrifen glwm gyda phatrwm sillafu arbennig
Bydd hyn yn ymarfer llif y gair ac yn serio’r patrwm yn y cof.
Mnemonics: unrhyw ddywediad neu stori sy’n helpu’r cof. Gallai’r plant wneud rhai i fyny am eiriau, neu ran o air sy’n anodd ei gofio iddynt hwy.
e.e. BEAUtiful “Because Eliphants Aren’t Ugly”
mynydd – mae’n haws dringo mynydd hefo dwy goes (yy)
Gemau: megis Shannon’ game (‘Teaching Spelling’ Mike Torbe) – gêm debyg i Hangman, ond bod angen darganfod y llythrennau yn ôl eu trefn yn y gair. Datblyga hyn gof am ddilyniant llythrennau mewn geiriau.
Mae nifer fawr o gemau yn y llyfr “Bright Ideas: Spelling” (Scholastic)
e.e. gemau rhag-ddodiad ac ôl-ddodiad
gemau Bingo o batrymau arbennig
Mae’r llyfr yn annog defnyddio gemau sy’n addas ar gyfer camau datlbygiad sillafu’r plant – mae pob un wedi’i nodi yn ôl camau Richard Gentry:
semi phonetic > phonetic > transitional > correct
e.e. “MSR” “MONSTR” “MONSTUR” “MONSTER”
fel bod modd dewis gêm i helpu datblygu’r sgiliau arbennig mae plentyn/grwp bach ei angen.