{"id":8604,"date":"2024-06-20T10:48:12","date_gmt":"2024-06-20T09:48:12","guid":{"rendered":"http:\/\/nervous-goldstine.194-164-20-134.plesk.page\/?page_id=8604"},"modified":"2024-09-13T11:03:03","modified_gmt":"2024-09-13T10:03:03","slug":"curriculum","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/information\/curriculum\/","title":{"rendered":"Cwricwlwm"},"content":{"rendered":"<div data-elementor-type=\"wp-page\" data-elementor-id=\"8604\" class=\"elementor elementor-8604\">\n\t\t\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-a5df99d elementor-section-full_width qodef-elementor-content-grid elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"a5df99d\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-725eb74\" data-id=\"725eb74\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-96ce528 elementor-widget__width-initial elementor-widget elementor-widget-qi_addons_for_elementor_blockquote\" data-id=\"96ce528\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"qi_addons_for_elementor_blockquote.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"qodef-shortcode qodef-m qodef-qi-blockquote qodef-layout--top qodef--\">\n\t\t\t\t<h4 class=\"qodef-m-text\">\n\t\t\tEin gweledigaeth fel ysgol yw darparu'r safonau addysg a chefnogaeth uchaf posibl i'n holl ddisgyblion lle mae gan bob disgybl ac aelod o'r t\u00eem gyfleoedd niferus i gyflawni a rhagori ar ei botensial lle nad oes nenfwd.\t\t<\/h4>\n\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<section class=\"elementor-section elementor-top-section elementor-element elementor-element-2dcb2df elementor-section-full_width qodef-elementor-content-grid elementor-section-height-default elementor-section-height-default\" data-id=\"2dcb2df\" data-element_type=\"section\" data-e-type=\"section\" data-settings=\"{&quot;background_background&quot;:&quot;classic&quot;}\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-container elementor-column-gap-default\">\n\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-column elementor-col-100 elementor-top-column elementor-element elementor-element-bdda44d\" data-id=\"bdda44d\" data-element_type=\"column\" data-e-type=\"column\">\n\t\t\t<div class=\"elementor-widget-wrap elementor-element-populated\">\n\t\t\t\t\t\t<div class=\"elementor-element elementor-element-cf87d0b elementor-widget elementor-widget-text-editor\" data-id=\"cf87d0b\" data-element_type=\"widget\" data-e-type=\"widget\" data-widget_type=\"text-editor.default\">\n\t\t\t\t<div class=\"elementor-widget-container\">\n\t\t\t\t\t\t\t\t\t<h2>Gweledigaeth Cwricwlwm Ysgol Treganna<\/h2>\nEin gweledigaeth fel ysgol yw darparu'r safonau addysg a chefnogaeth uchaf posibl i'n holl ddisgyblion lle mae gan bob disgybl ac aelod o'r t\u00eem gyfleoedd niferus i gyflawni a rhagori ar ei botensial lle nad oes nenfwd.\nMae\u2019r gymuned yn rhan annatod o\u2019n cynefin. Cydweithiwn gyda theulu eang ein cymuned i gynnig profiadau ysbrydoledig i\u2019n disgyblion gan hyrwyddo cwricwlwm byw, cyfredol ac uchelgeisiol sy\u2019n tanio dychymyg ein disgyblion ac yn meithrin eu chwilfrydedd. Mae\u2019r cyd berthynas weithredol yma yn ganolog i fywyd ysgol Treganna wrth i botensial pob disgybl gael ei feithrin yn yr ysgol ac yn y gymuned tu hwnt.\nYn sgil ein llwyddiannau ar lwyfan yr Eisteddfod mae profiadau allgyrsiol creadigol yn allweddol, ac yn datblygu hyder a mentergarwch ein disgyblion. Mae Cymreictod, yr iaith, a\u2019r diwylliant Cymreig yn rhan annatod o\u2019n gweledigaeth sy\u2019n ein galluogi i feithrin disgyblion hyderus sy\u2019n ymfalch\u00efo yn eu hiaith a\u2019u diwylliant. \nRydym yn annog arloesedd ac mae ein cwricwlwm yn galluogi ein disgyblion i wthio\u2019r ffiniau a chydweithio ar brosiectau byw er mwyn llwyddo. Bydd pob disgybl yn cael ei herio ac mae disgwyliadau uchel yn rhan annatod o\u2019n hysgol ble does dim nenfwd. \nYn sgil ein pwyllgorau disgyblion rydym yn annog pob disgybl i gyfrannu at fywyd ein hysgol ac i wneud penderfyniadau strategol. Cant eu hannog i wneud dewisiadau fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hysgol, eu cymuned, eu gwlad a\u2019r byd ehangach. Yn sgil ein sesiynau Dathlu Dysgu, gwerthfawrogwn natur aml ddiwylliannol ein hardal a\u2019r brif ddinas, gan annog disgyblion parchus a gofalgar sy\u2019n dathlu eu gwahaniaethau. \nYn Nhreganna rydym yn ymfalch\u00efo yn ein hunaniaeth a bydd ein cwricwlwm yn dathlu ein hieithoedd, ein hanesion, ein diwylliant a\u2019n cynefin. Ymfalch\u00efwn yng nghreadigrwydd a chwilfrydedd ein disgyblion ac mae disgwyliadau uchel yn sylfaen i gwricwlwm ein hysgol.\n<h3>Cydweithio gyda'r holl rhanddeiliaid i gynllunio ein cwricwlwm<\/h3>\nRydym wedi cydweithio gyda\u2019n holl rhanddeilaid er mwyn sicrhau bod y 4 diben yn rhan annatod o\u2019n gweledigaeth a bod y dysgwyr, y staff, y rhieni a'r llywodraethwyr yn rhan allweddol o\u2019r broses o greu ein cwricwlwm newydd.\nDechreuwyd ar y broses o gynllunio ein cwricwlwm newydd wrth gynnal trafodaethau gyda'r disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr ar:\n<ul>\n \t<li><strong>Pam?<\/strong> Pam ein bod yn canolbwyntio ar y sgiliau yma? Pam ein bod yn cyflwyno\u2019r cysyniad yma? Pam ein bod yn cyflwyno\u2019r profiadau yma? Pam i ni\u2019n targedu\u2019r sgiliau yma?<\/li>\n \t<li><b>Y llwybr dysgu. <\/b>Sut fydd y disgyblion yn dysgu? Sut fydd y disgyblion yn teithio ar hyd  eu continwwm dysgu? Sut allwn sicrhau profiadau pwrpasol dysgu sy\u2019n targedu\u2019r disgybl unigol? Beth sydd angen ar y disgybl unigol er mwyn gwneud cynnydd ar hyd y llwybr dysgu?<\/li>\n \t<li><strong>Y dysgu dwys.<\/strong> Sut allwn sicrhau bod dyfnder a dealltwriaeth yn y dysgu? Sut allwn\n sicrhau bod ein disgyblion yn meddu ar wybodaeth ddwys a dealltwriaeth gref? Sut allwn sicrhau bod pob plentyn yn cael eu herio?<\/li>\n \t<li><strong>Cynnydd.<\/strong> Sut allwn sicrhau fod pob disgybl yn gwneud cynnydd? Sut fyddwn yn mesur y cynnydd yma o safbwynt ein cwricwlwm newydd?<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Ein Cwricwlwm Ysgol<\/h3>\n<ul>\n \t<li><span style=\"font-weight: 400;\">Yn Ysgol Treganna rydym yn anelu at ddatblygu dysgwyr hyderus, uchelgeisiol, gwybodus a chreadigol. Ein prif flaenoriaethau yw galluogi ein dysgwyr i wireddu\u2019r pedwar diben a\u2019u paratoi ar gyfer dysgu parhaus.<\/span><\/li>\n \t<li><span style=\"font-weight: 400;\">Mae canllawiau Cwricwlwm Cymru yn ddatganiad clir o\u2019r hyn sy\u2019n bwysig wrth ddatblygu addysg eang a chytbwys. Y pedwar diben yw\u2019r weledigaeth a\u2019r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Ein nod yw gosod disgwyliadau uchel a galluogi pob dysgwr i gyfawni ei lawn botensial.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Mae canllawiau Cwricwlwm Cymru yn ddatganiad clir o\u2019r hyn sy\u2019n bwysig wrth ddatblygu addysg eang a chytbwys. Y pedwar diben yw\u2019r weledigaeth a\u2019r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Ein nod yw gosod disgwyliadau uchel a galluogi pob dysgwr i gyfawni ei lawn botensial.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Ein nod yw gosod disgwyliadau uchel a galluogi pob dysgwr i gyfawni ei lawn botensial.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Yn Ysgol Treganna rydym yn cynnig addysg eang a chytbwys sy\u2019n galluogi pob dysgwr i wneud cysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd dysgu a phrofiad a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd a chyd-destunau newydd.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Rydym yn archwilio beth mae\u2019r pedwar diben yn ei olygu i bob dysgwr a chredwn yn gryf y dylid paratoi a dylunio cwricwlwm sy\u2019n cyfrannu at ddatblygiad pob un o\u2019n dysgwyr wrth iddynt gymhwyso\u2019r pedwar diben ar draws y cwricwlwm.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Fel ysgol mae gennym ddealltwriaeth glir o pam mae pethau\u2019n cael eu dysgu a\u2019u gwneud. Mae dyluniad y cwricwlwm yn gofyn i ni resymu pam mae dysgu penodol yn bwysig a beth yw hanfod y dysgu hwnnw.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Ein nod yw darparu cwricwlwm a fydd yn canfod ein disgyblion i ragori ar eu potensial.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Rydym yn cefnogi dilyniant ar hyd y continwwm dysgu ac yn sicrhau eu bod yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Mae cwricwlwm ein hysgol yn eang a chytbwys ac yn cynnwys cyfleoedd dysgu o fewn ac ar draws pob un o\u2019r Maes Dysgu a Phrofiad.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019n cwmpasu\u2019r cysyniadau yn y datganiadau o\u2019r hyn sy\u2019n bwysig ac yn darparu cynnydd priodol yn unol ag egwyddorion cynnydd.<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Mae hefyd yn cyd-fynd \u00e2 gofynion gorfodol o addysgu Cymraeg, Saesneg a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Yr elfennau gorfodol o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh).<\/span><\/li>\n \t<li style=\"font-weight: 400;\" aria-level=\"1\"><span style=\"font-weight: 400;\">Yr elfennau gorfodol o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh).<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h3>Cwricwlwm i Gymru<\/h3>\nMae\u2019r Cwricwlwm i Gymru wedi\u2019i ddatblygu i gyflawni pedwar diben allweddol.\nEi nod yw annog ein disgyblion i fod yn:\n<ul>\n \t<li>Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog<\/li>\n \t<li>Unigolion iach, hyderus<\/li>\n \t<li>Gyfranwyr mentrus, creadigol<\/li>\n \t<li>Ddinasyddion moesol, gwybodus<\/li>\n<\/ul>\nMae gan Gwricwlwm Cymru chwe maes dysgu.\n<ol>\n \t<li><strong>Celfyddydau mynegiannol <\/strong>sy\u2019n ymgorffori celf, dawns, drama a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth. Bydd yn annog creadigrwydd a, meddwl beirniadol ac yn cynnwys perfformiad.<\/li>\n \t<li><strong>Dyniaethau <\/strong>sy\u2019n ymgorffori daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Bydd yn seiliedig ar brofiadau dynol a bydd hefyd yn ymdrin \u00e2 diwylliant Cymru.<\/li>\n \t<li><strong>Iechyd a lles<\/strong>: mae hyn yn ymdrin ag agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol bywyd, gan helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a\u2019u lles a dysgu sut i reoli dylanwadau cymdeithasol.<\/li>\n \t<li><strong>Gwyddoniaeth a thechnoleg<\/strong> sy\u2019n ymgorffori bioleg, cemeg, ffiseg, gwyddoniaeth gyfrifadurol, a dylunio a thechnoleg.<\/li>\n \t<li><strong>Mathemateg a rhifedd:<\/strong> yn y blynyddoedd cynnar, bydd hyn yn cynnwys dysgu trwy chwarae. Yn nes ymlaen, bydd yn cynnwys gweithio\u2019n annibynnol ac ar y cyd ag eraill.<\/li>\n \t<li><strong>Leithoedd, llythrennedd a chyfathrebu<\/strong>: bydd hyn yn cynnwys Cymraeg a Saesneg, llenyddiaeth ac ieithoedd rhyngwladol. Bydd dysgu Cymraeg yn orfodol o hyd (fel iaith ychwanegol i blant nad ydyn nhw\u2019n defnyddio\u2019r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf).<\/li>\n<\/ol>\n<h3>Asesu a Chynnydd<\/h3>\nMae dilyniant ac asesu effeithiol yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cyflawni gweledigaeth ein hysgol.\nMae asesu a chynnydd yn rhan o bob profiad dysgu ac addysgu yn Ysgol Treganna ac yn cynnyws hunan asesu, asesu p\u00e2r, adborth athrawon ac asesiadau unigol y dysgwyr.\nRydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu yn seiliedig ar dystiolaeth i alluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol. Mae hyn yn caniatau i ni lunio darlun holistaidd o gynnydd pob plentyn.\nMae'r disgyblion yn cydweithio gyda'u hathrawon i ddeall eu cynnydd ac i adnabod y cam nesaf yn eu taith ddysgu. \nRydym yn herio'r disgyblion,yn eu cefnogi ac yn myfyrio ar gynnydd dros amser er mwyn mesur cynnydd grwpiau o ddysgwyr.   \n Mae ein cwricwlwm ysgol wedi\u2019i ategu gan yr egwyddorion cynnydd sy\u2019n disgrifio\u2019r hyn y mae\u2019n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd o fewn y 6 maes dysgu a phrofiad ac rydym yn ystyried cynnydd yn y 6 maes dysgu yn erbyn datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.\n Mae ein trefniadau asesu yn sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhwng dysgwyr ac athrawon ac mae\u2019n seiliedig ar fyfyrio parhaus, beth yw'r cam nesaf a beth sydd angen gwneud er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial.\n<h3>Gwerthuso ein Cwricwlwm<\/h3>\nBydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu\u2019n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein dysgwyr ac yn gwireddu gweledigaeth ein hysgol. \nDrwy gydol y flwyddyn bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanarfarnu yn cael eu trefnu er mwyn gwerthuso ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein cwricwlwm a\u2019r anghenion gofynnol.\n Byddwn yn gweithio o fewn ein hysgol, ar draws y clwstwr ac mewn partneriaeth \u00e2 llywodraethwyr, y consortia rhanbarthol a'r awdurdod lleol, er mwyn sicrhau continwwm dysgu o ansawdd uchel.\t\t\t\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/div>\n\t\t\t\t\t<\/div>\n\t\t<\/section>\n\t\t\t\t<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Our vision as a school is to provide the highest possible standards of education and support for all our pupils, ensuring that everyone\u2014pupils and staff alike\u2014has numerous opportunities to achieve [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":19,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-full-width.php","meta":{"_EventAllDay":false,"_EventTimezone":"","_EventStartDate":"","_EventEndDate":"","_EventStartDateUTC":"","_EventEndDateUTC":"","_EventShowMap":false,"_EventShowMapLink":false,"_EventURL":"","_EventCost":"","_EventCostDescription":"","_EventCurrencySymbol":"","_EventCurrencyCode":"","_EventCurrencyPosition":"","_EventDateTimeSeparator":"","_EventTimeRangeSeparator":"","_EventOrganizerID":[],"_EventVenueID":[],"_OrganizerEmail":"","_OrganizerPhone":"","_OrganizerWebsite":"","_VenueAddress":"","_VenueCity":"","_VenueCountry":"","_VenueProvince":"","_VenueState":"","_VenueZip":"","_VenuePhone":"","_VenueURL":"","_VenueStateProvince":"","_VenueLat":"","_VenueLng":"","_VenueShowMap":false,"_VenueShowMapLink":false,"footnotes":""},"class_list":["post-8604","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8604","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8604"}],"version-history":[{"count":46,"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8604\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11516,"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8604\/revisions\/11516"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/19"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ysgoltreganna.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8604"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}