Croeso i Ysgol Treganna! Rwy'n hynod falch o fod yn Bennaeth Ysgol Treganna ac arwain tîm o staff ymroddedig a brwdfrydig sy'n rhoi anghenion ein plant yn gyntaf.

Fel pennaeth yr ysgol, rwyf am greu diwylliant o bosibilrwydd yn Ysgol Treganna ble mae parodrwydd i ddysgu, i gofleidio syniadau newydd, i anelu am ragoriaeth yn rhan allweddol o weledigaeth yr ysgol. Ond hefyd datblygu’r diwylliant gofalgar a chynhwysol sy’n cynnal ac yn dathlu’r “ysgol fechan yn y ddinas fawr”.

Y fechan, sef yr agosatrwydd, yr ymdeimlad o berthyn o fewn y cymunedau, ond yna’r mawredd a’r cydweithrediad pwerus pan ddaw’r cymunedau ynghyd fel un ysgol gref.

Mae cymuned yr ysgol yn rhan annatod ac unigryw o ethos Ysgol Treganna a chredwn yn gryf mai'r ffordd orau o ddarparu addysg yw trwy bartneriaeth lwyddiannus rhwng y cartref, yr ysgol a'r gymuned leol. Gyda chymorth rhieni, rydym am feithrin cariad at ddysgu ac arfogi pob plentyn â'r cyfarpar sydd ei angen arno i lwyddo mewn bywyd.

Mae croeso mawr i chi ymweld â ni i weld yr hyn sydd ar gael yn ein hysgol.