Mae Dysgu Awyr Agored yn rhan allweddol o gwricwlwm ein hysgol.

Mae Dysgu Awyr Agored yn flaenoriaeth i ni yma yn ysgol Treganna ac rydym yn ffodus i gael ardaloedd allanol eang a choedwig ar dir yr ysgol. Mrs Julia Davage ein harweinydd Dysgu Awyr Agored sy’n cynnal gwersi wythnosol i holl ddisgyblion yr ysgol. Bwriad y gwersi yma yw datblygu sgiliau annibynnol, mentergarwch a dyfalbarhad y disgyblion. Yn ogystal datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu’r disgyblion gan eu hannog i fod yn ddinasyddion cyfrifol sy’n gwerthfawrogi’r byd naturiol.