Gellir crynhoi dull ysgol gyfan o adnabod dysgwyr sydd angen dilyn ymyrraeth fel a ganlyn:

Cam Un:

Pan fydd gan riant, ofalwr ac/neu athro dosbarth bryder am blentyn unigol, ein hymateb cychwynnol yw darparu strategaethau addysgu o ansawdd uchel, sgaffaldiau dysgu, a gwahaniaethu o fewn y dosbarth. Yna caiff cynnydd y plentyn ei fonitro'n rheolaidd gan yr athro dosbarth. Gall yr athro dosbarth ddefnyddio cynorthwywyr dysgu i gynorthwyo dysgu’r plentyn yn y dosbarth, neu drwy gynnal ymyrraeth dosbarth. 

Cam Dau

Os nad yw dysgwr yn datblygu yn ôl y disgwyl, mae’n bosibl y bydd angen ymyraethau wedi’u targedu i ategu addysgu gwahaniaethol, a hynny er mwyn mynd i’r afael â meysydd angen penodol. Mae hyn yn elfen sylfaenol o addysgu ansawdd uchel, arferol. Bydd cyfuniad o addysgu ansawdd uchel gydag ymyraethau effeithiol, byr, am gyfnod penodol, yn ddigon i’r rhan fwyaf o ddysgwyr ddatblygu yn unol â’u potensial. 

Os bydd cynnydd yn parhau’n araf mewn perthynas â gallu’r plentyn, gall athro dosbarth gyfeirio’r dysgwr at Dîm Cefnogi Dysgu'r ysgol. Bydd y Tîm Cefnogi Dysgu yn cynllunio ymyraethau addas er mwyn ymateb i’r meysydd penodol sydd yn peri pryder, yna, bydd sesiynau’n cael eu hamserlennu er mwyn cynorthwyo dysgu’r plentyn (e.e., sesiynau Dysgu Dwys un i un, neu waith grŵp). Mae hon yn elfen sylfaenol, ond arferol, o addysgu ansawdd uchel.

Hefyd, pan fydd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu arfer ysgol, neu i fynd i’r afael ag anghenion unigol dysgwr, bydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol yn cydweithio ag asiantaethau allanol a thimoedd arbenigol yr Awdurdod Lleol (ALl), gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol y GIG. 

Cam Tri

Pan fydd y cynnydd yn llai na’r disgwyl, mae’n bosib na fydd addysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys gwahaniaethu ac ymyraethau arferol, safonol, yn ddigon i fodloni anghenion pob dysgwr. Mae’n bosib y bydd dysgwyr o’r fath yn cael eu hamlygu’n rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a bydd angen i’r ysgol gymryd rhai camau ychwanegol neu wahanol i sicrhau cynnydd. Bydd penderfynu a oes gan ddysgwr ADY yn seiliedig ar asesiad o gynnydd dros amser, o ystod o ffynonellau. 

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Tîm Cefnogi Dysgu:

Anogwyr Dysgu: Mr Thomas Sims-Hayes a Mrs Ingrid Morgan

Uwch-anogwyr Dysgu: Mrs Rhiannydd Jones, Mrs Mari Hughes a Ms Rhoda Henson

Rhaglenni Ymyrraeth:

Gwybyddiaeth a Dysgu

Rhaglen YmyrraethDisgrifiadPencampwr(wyr)
Dysgu DwysCynllun i helpu dysgwyr i oresgyn anhawster penodol ac i ddatblygu cywirdeb a chyflymdra. 10 munud o ddysgu un i un bob dydd.Mrs Mari Hughes, Ms Rhoda Henson & Mr Thomas Sims-Hayes
Cychwyn Eto / Direct PhonicsRhaglen ffonolegol er mwyn cefnogi sgiliau darllen, sillafu ac ysgrifennu.Mrs Mari Hughes, Ms Rhoda Henson & Mr Thomas Sims-Hayes
Clwb CyfrifRhaglen i hybu hunan-hyder ac atgyfnerthu sgiliau rhif sylfaenol.Mrs Mari Hughes, Ms Rhoda Henson & Mr Thomas Sims-Hayes

Cyfathrebu a Rhyngweithio

Rhaglen YmyrraethDisgrifiadPencampwr(wyr)
Language LinkRhaglen strwythuredig sy’n hybu dealltwriaeth o gysyniadau iaith.Mrs Ingrid Morgan
Speech LinkYmyrraeth wedi'i deilwra i dargedu a datblygu sgiliau lleferydd penodol.Mrs Ingrid Morgan

POPAT

Rhaglen i gefnogi dysgwyr ag anawsterau iaith a lleferydd.

Mrs Ingrid Morgan & Ms Rhoda Henson

WellComm

Rhaglen i gefnogi dysgwyr ag anawsterau iaith a lleferydd.

Mrs Ingrid Morgan

Therapi LEGO

Mae Therapi LEGO yn gweithio ar feysydd penodol o ryngweithio cymdeithasol, gan gynnwys: cymryd tro, gwrando, datrys problemau a rhannu. Mae hefyd yn cefnogi cysyniadau ieithyddol e.e., maint, lliwiau ac arddodiaid.Mrs Rhiannydd Jones

Sioni Siarad / Trochi Iaith

Ymyrraeth i gefnogi plant sy’n dysgu’r Gymraeg.Ms Rhoda Henson

Ymddygiad, a Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol

Rhaglen YmyrraethDisgrifiadPencampwr(wyr)

ELSA

Mae Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) yn berson cynnes a gofalgar sy’n helpu dysgwyr i deimlo'n hapus yn yr ysgol ac i gyrraedd ei botensial yn addysgol. Bydd ELSA's yn helpu dysgwyr i ddysgu deall eu hemosiynau a pharchu teimladau'r rhai o'u cwmpas.

Mrs Rhiannydd Jones & Mrs Mari Hughes

Dewch i Siarad (Talkabout)

Mae'r ymyrraeth grŵp hon ar gyfer dysgwyr ag anhawster cyfathrebu/rhyngweithio cymdeithasol.

Mrs Rhiannydd Jones & Mrs Mari Hughes

Anghenion Synhwyraidd a / neu Gorfforol

Rhaglen YmyrraethDisgrifiadPencampwr(wyr)

Handwriting Motorway

Nod yr ymyrraeth hon yw datblygu sgiliau mawr a bach er mwyn hwyluso llawysgrifen a rheolaeth osgo'r corff. 

Mrs Mari Hughes, Ms Rhoda Henson & Mr Thomas Sims-Hayes

Cylched Synhwyraidd

Ymyrraeth sy’n helpu plant i reoleiddio a threfnu eu synhwyrau fel eu bod yn barod i ddysgu.

Mr Thomas Sims-Hayes