Y Parthau Rheoleiddio

Mwy o wybodaeth i’w rannu’n fuan, ond ...

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio fframwaith Y Parthau Rheoleiddio (The Zones of Regulation) ar draws yr ysgol eleni.

O bryd i'w gilydd, mae pob un ohonom (gan gynnwys oedolion) yn ei chael hi'n anodd rheoli teimladau. Gall gofid, dicter, anesmwythder, ofn neu flinder (i enwi ond ychydig) gael effaith fawr arnom, a’n hatal rhag bwrw ymlaen â'n diwrnod. Yn aml, gall plant sy’n teimlo’r emosiynau hyn ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn yr ysgol, ac fe all hyn gael effaith ar eu dysgu. 

Nod fframwaith Y Parthau Rheoleiddio yw addysgu strategaethau da i blant i’w helpu i ymdopi â’r teimladau hyn fel eu bod yn barod i ddysgu. Gelwir y broses hon yn hunan-reoleiddio a bydd addysgu ffyrdd effeithiol o reoli eu teimladau yn eu cefnogi yn ddiweddarach mewn bywyd fel nad ydynt yn troi at strategaethau ymdopi negyddol sy’n effeithio ar eu lles meddyliol a chorfforol. 

Edrychwn ymlaen felly at rannu mwy o ddiweddariadau cyffrous â chi dros y misoedd nesaf.