Rydym yn awyddus i sefydlu grwpiau amrywiol i helpu rhieni ac i gryfhau cysylltiadau.

Beth fydd pwrpas y fforymau amrywiol?

Nod y fforymau fydd rhoi cyfle i rieni gyfarfod a rhannu profiadau, yn ogystal â dysgu am wasanaethau lleol a derbyn gwybodaeth a fydd, o bosib, yn berthnasol iddynt drwy siaradwyr gwadd. 

Pa drefn fydd ar y cyfarfodydd?

Bydd trefniadau’n cael eu penderfynu gan aelodau’r Fforwm yn ystod y cyfarfod cyntaf. 

Syniadau:

  • Amser ac amlder. Unwaith bob hanner tymor?
  • Hyd. 45 munud, a dim mwy nag un awr?
  • Agenda/rhaglen. I’w rannu wythnos o flaen llaw? 
  • Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Mi fydd hyn yn bwysig iawn! 

Pwy fydd yr aelodau? 

  • Rhieni, cyn rhieni, gofalwyr, neiniau, a theidiau Ysgol Treganna.
  • Cynrychiolaeth gan Staff a Llywodraethwyr yr ysgol.
  • Ni fydd uchafswm ar gyfer nifer yr aelodau.

Awtistiaeth / ADHD

Dyma fanylion ein Fforwm cyntaf.