Anelwn at wneud Treganna yn ysgol gyda phlant sy’n gwerthfawrogi’r byd naturiol ac yn ymddwyn yn gyfrifol tuag at yr amgylchedd.

Bob mis Medi, rydym yn ethol tîm newydd ac yn llunio agenda ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Mae ein Cyngor Eco yn cyfarfod unwaith y mis i drafod ffyrdd o leihau, ailgylchu a diogelu ein hamgylchedd. Maent yn gweithio i gyflawni ein cynllun eco-weithredu a chodi ymwybyddiaeth o faterion gwyrdd o fewn yr ysgol.