Yn Ysgol Treganna, rydym yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl a lles cadarnhaol i'n holl ddisgyblion fyw bywyd hapus, iach a chynhyrchiol.

Yn Ysgol Treganna, rydym yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl a lles cadarnhaol i’n holl ddisgyblion i fyw bywyd hapus, iach a chynhyrchiol. Mae angen i ddisgyblion gael llais, gallu cyfrannu syniadau a dylanwadu ar sut i wella lles eu cyfoedion a chymuned ehangach yr ysgol. Rydym yn falch o fod yn grŵp o blant a benodwyd gan eu cyfoedion fel Llysgenhadon Lles i helpu i ysgogi newid cadarnhaol a chefnogi cymuned yr ysgol gyfan.