Rydym fel ysgol wedi ymrwymo i greu amgylchedd dysgu sy’n gynhwysol, yn meithrin gwytnwch, ac sy’n hybu annibyniaeth.
Bydd pontio llyfn (o ysgol i ysgol, neu o flwyddyn i flwyddyn) yn galluogi dysgwr i gyrraedd eu potensial. Mae hyn yn golygu y byddant:
- yn cael eu hanghenion holistig wedi’u nodi yn gynnar
- lle bo’n briodol, yn cael cymorth amlasiantaethol mewn da bryd, a’r cymorth hwnnw yn effeithiol wrth hyrwyddo eu hanghenion addysgol, yn ogystal â’u lles personol
- yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd dysgu amrywiol
Mae’r camau pontio a ddangosir isod yn nodi lefel y cymorth y bydd ei angen ar ddysgwr yn ystod y cyfnod pontio.
Pontio Cynhwysol
- Trefniadau pontio cynhwysol sydd ar gael i bob dysgwr e.e.,
- cyfleoedd i ymweld â’r ysgol ar adegau gwahanol e.e., bore, prynhawn, amser cinio
- cyfleoedd i dreulio amser yn yr ystafell ddosbarth newydd
- nosweithiau agored a chyfleoedd i edrych o gwmpas amgylchedd yr ysgol
- cwrdd â’r athro/staff
Pontio wedi’i Dargedu
- Cymorth wedi’i dargedu ar gyfer dysgwyr y nodwyd bod ganddynt angen sy’n dod i’r amlwg/angen dynodedig (sydd wedi’i fonitro o fewn trefniadau presennol yr ysgol) e.e.,
- trefnu ymweliadau ychwanegol
- creu llyfryn o ffotograffau a gwybodaeth i helpu i baratoi at symud
- cefnogaeth weledol (amserlen weledol, cardiau Nawr a Nesaf ayb)
- cyfathrebu â’r rhieni/cartref (llyfrau cyswllt ayb)
Pontio wedi’i Adolygu
- Cymorth wedi’i dargedu wrth adolygu’r pontio ar gyfer dysgwyr sydd â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) e.e.,
- gweithgareddau/gweithdai pontio mewn grwpiau bychain
Pontio Dwysach
- Cymorth dwysach i ddysgwyr y nodwyd bod ganddynt anawsterau difrifol, cymhleth, cyson a pharhaus e.e.,
- ymuno’n raddol, os oes angen
- dilyn diddordebau penodol y plentyn
Bydd anghenion y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael eu diwallu ar y lefel gyntaf. Pan fo cymhlethdod yr anghenion yn cynyddu, bydd y trefniadau ychwanegol ar bob lefel yn ymgorffori trefniadau’r lefel flaenorol. Bydd hyn yn sicrhau fod dysgwyr yn derbyn y cymorth priodol sy’n diwallu lefel eu hangen unigol hwy.