Mae 22 o ddosbarthiadau yn Nhreganna wedi’u trefnu i hyrwyddo’r profiad dysgu gorau posibl i’ch plentyn.

Mae Ysgol Gymraeg Treganna yn ysgol gyfrwng Gymraeg sydd wedi ei lleoli yn ardal Treganna, Caerdydd. Ein nod fel ysgol yw cyflwyno cwricwlwm arloesol yr 21ain ganrif a fydd yn ysbrydoli ein disgyblion ac yn eu helpu i ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol, mentrus, gwybodus a hyderus. Mae gennym dîm ymroddedig, cyfeillgar sy’n gweithio’n galed. Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldebau am feysydd o’r cwricwlwm ac fel ysgol rydym yn darparu datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd uchel i’n staff. Yn ogystal â’r staff addysgu mae gennym nifer o gynorthwywyr sy’n darparu cefnogaeth werthfawr. Mae gennym ddwy weinyddwraig ysgol amser llawn.

Mae ein gweithgareddau allgyrsiol yn cynnwys pêl-rwyd, hoci, rygbi, pêl-droed, criced, nofio, rownderi, côr, clwb perfformio, clwb hwyl a sbri, clwb ffilm, clwb garddio, offerynnau cerdd, dawnsio gwerin, clwb Minecraft a’r Urdd. Mae gennym Gymdeithas Rhieni ac Athrawon gweithgar sy’n darparu adnoddau ychwanegol gwerthfawr i’n disgyblion a’n staff.

Mae cymuned yr ysgol yn rhan annatod ac unigryw o ethos Ysgol Treganna a chredwn yn gryf mai’r ffordd orau o ddarparu addysg yw trwy bartneriaeth lwyddiannus rhwng y cartref, yr ysgol a’r gymuned leol. Gyda chymorth rhieni, rydym am feithrin cariad at ddysgu ac arfogi pob plentyn ar gyfarpar sydd ei angen arno i lwyddo mewn bywyd.