Mae’r Corff Llywodraethu yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn effeithiol. Rhaid i Ysgol Treganna i weithredu o fewn y fframwaith a osodir gan ddeddfwriaeth a rhaid sicrhau bo polisïau’r Awdurdod Lleol (ALl) a Llywodraeth Cymru (LlC) yn cael eu dilyn.

Ysgol Treganna Aelodaeth y Corff Llywodraethu 2024-2025

Enw Yn cynrychioli Dyddiad gorffen
Manon George, Cadeirydd Awdurdod Lleol 21/05/24
Carolina Avila Jones Rhiant Lywodraethwr 10/12/25
Susan Elsmore Awdurdod Lleol 27/11/26
Dafydd Franklin Rhiant Lywodraethwr 05/07/26
Sharon Krause Awdurdod Lleol 20/09/26
Menna Roberts Cymuned 06/07/26
Paul Humphries Rhiant Lywodraethwr 10/12/25
Simon Taylor Rhiant Lywodraethwr 01/11/24
Gareth Rhys Evans Rhiant Lywodraethwr 05/07/26
Lleu Williams Cymuned 22/12/27
Stefan Rollnick Awdurdod Lleol 18/03/24
Tom Simms Hayes Staff 23/11/27
Eleri Jones Athrawes 19/03/27
Elin James Athrawes 31/10/26
Catrin A Evans Pennaeth
Gareth W Evans Dirprwy Bennaeth

Corff Llywodraethu Ysgol Treganna

Mae’r Corff Llywodraethu yn gyfrifol am sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn effeithiol. Rhaid i Ysgol Treganna i weithredu o fewn y fframwaith a osodir gan ddeddfwriaeth a rhaid sicrhau bo polisïau’r Awdurdod Lleol (ALl) a Llywodraeth Cymru (LlC) yn cael eu dilyn.

Y Pennaeth a’r Uwch Dîm Rheoli sydd yn gyfrifol am redeg yr ysgol o ddydd i ddydd tra bod y Corff Llywodraethu yn cyflawni rôl strategol.

Mae’r Pennaeth, a’r Uwch Dîm Rheoli yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Corff Llywodraethol er mwyn sicrhau bod disgyblion yr ysgol yn derbyn yr addysg gorau.

Mae’r Corff Llywodraethu yn cwrdd dwywaith y tymor. Mae gan y Corff Llywodraethu nifer o bwyllgorau sy’n gyfrifol am wahanol agweddau o waith yr ysgol.

TRI PHRIF RÔL Y CORFF LLYWODRAETHU

i) RÔL STRATEGOL

Mae Canllaw i’r Gyfraith ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol a’r rheoliadau yn disgrifio’n eglur beth yw rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu a phenaethiaid. Mae cyrff llywodraethu’n cyflawni rôl strategol ac ni ddylai amharu ar rediad yr ysgol o ddydd i ddydd – cyfrifoldeb y pennaeth yw hynny. Mae llywodraethwyr yn cyflawni eu rôl strategol trwy benderfynu beth maent eisiau i’r ysgol ei gyflawni a thrwy ddarparu fframwaith strategol i gyrraedd yno. Mae hyn yn golygu:

  1. gosod nod ac amcanion ar gyfer yr ysgol;
  2. cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn;
  3. monitro a gwerthuso i weld bod (i) a (ii) yn cael eu cyflawni.

Dylai llywodraethwyr gymryd cyngor bob amser ynglŷn â hyn gan y pennaeth cyn gwneud penderfyniadau

ii) Y FFRIND BEIRNIADOL

Dyma ble mae angen i lywodraethwyr gynnig cefnogaeth a chyngor cadarnhaol i’r pennaeth, gwrando ar syniadau ayb. Mae hefyd angen holi’r cwestiynau heriol hynny, i geisio gwybodaeth ac eglurhad, i wella cynigion a gwneud y penderfyniad gorau i bawb.

iii) Y RÔL ATEBOL

Er mai’r pennaeth a staff yr ysgol sy’n atebol i’r corff llywodraethu am berfformiad yr ysgol, rhaid i’r corff llywodraethu fod yn barod i egluro ei benderfyniadau a gweithredoedd i unrhyw un sydd â diddordeb dilys. Gall hyn gynnwys staff, rhieni, disgyblion, y gymuned leol, yr ALl a Llywodraeth Cymru.

Cysylltu â’r Llywodraethwyr Os ydych am gysylltu gyda Chadeirydd y Corff Llywodraethu neu lywodraethwr unigol gallwch e-bostio swyddfa’r ysgol.