Dyma ein taith dysgu am y flwyddyn 24-25
Ydy arweinwyr ar bob lefel: yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer staff, disgyblion a’u hunain?
Fforwm Arweinyddiaeth – sefydlu cylch trylwyr o ddatblygu arweinyddiaeth i staff a chynorthwywyr. Sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol yn datblygu potensial staff i arwain ac yn alinio gyda blaenoriaethau’r ysgol.
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn defnyddio'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth er mwyn helpu'r gweithlu i berfformio'n effeithiol?
Mireinio ein defnydd o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth – cyfarfodydd rheoli ac adolygu pythefnosol, datblygu pasbort proffesiynol staff, holiaduron hunan werthuso staff a chynorthwywyr
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn datblygu'r gweithlu ac yn meithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi?
Sefydlu grwpiau ymholi proffesiynol staff a chynorthwywyr. Sicrhau fod pob aelod o staff yn cyd weithio ac yn cynnal ymchwil personol yn gysylltiedig â'u cwestiwn ymchwiliol er mwyn meithrin cydweithio ac arloesi. Creu rhwydwaith Ymholi Proffesiynol Treganna.
I ba raddau mae'r prosesau hunanwerthuso yn effeithiol a sut mae mesur hyn?
Gwreiddio ymhellach prosesau hunanwerthuso effeithiol. Datblygu'r prosesau ymhellach gan ddefnyddio fframwaith Estyn ac alinio gyda'r fframwaith gwerthuso a gwella.
Pa mor dda mae'r llywodraethwyr yn cyfrannu’n bwrpasol at bennu blaenoriaethau strategol yr ysgol?
Datblygu ymhellach rôl y llywodraethwyr wrth gyfrannu’n bwrpasol at bennu blaenoriaethau strategol yr ysgol. Llywodraethwyr i fod yn rhan o brosiectau ymchwil y staff - ymuno gyda chwlwm dysgu staff/ cynorthwywyr.
Blaenoriaethau 2024-2025 Dysgu ac Addysgu
I ba raddau y mae dysgwyr yn datblygu mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd?
Creu continiwwm chwarae ar draws yr ysgol er mwyn datblygu sgiliau annibynnol, chwilfrydedd chwarae a mentergarwch y disgyblion.
I ba raddau y mae dysgwyr yn meithrin y sgiliau er mwyn myfyrio'n feirniadol ar eu gwaith eu hunain a dysgwyr eraill?
Datblygu polisi adborth a marcio’r ysgol gan sicrhau bod cynnydd yn y strategaethau a chysondeb yn y dulliau. Sicrhau bod y disgyblion yn rhan allweddol o’r adborth ac yn cyfrannu at bennu eu targedau a’r cam nesaf yn eu taith dysgu.
I ba raddau y mae dysgwyr yn datblygu soffistigeidrwydd cynyddol yn eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol?
Targedu sillaf Saesneg gan ddefnyddio cynlluniau Monster/ Superhero phonics. Hyfforddiant i staff ym mis Medi, fframwaith i gael eu rhannu, mesur effaith i ddigwydd yn dymhorol.
I ba raddau y mae'r addysgu'n cynnig y lefel gywir o her a disgwyliadau uchel ar draws yr ysgol?
Mapio genres ar draws yr ysgol er mwyn sicrhau her a chynnydd yn y gwaith ysgrifenedig.
Pa mor effeithiol mae athrawon yn gwneud eu dosbarthiadau’n lleoedd ysgogol a difyr lle gall pob grŵp o ddisgyblion wneud cynnydd?
Datblygu’r amgylchedd dysgu dysgu awyr agored gan ffocysu ar ardaloedd allanol bob dosbarth. Creu fframwaith Dysgu Awyr Agored, gwersi i bob dosbarth yn wythnosol.
I ba raddau y mae dysgwyr yn datblygu sgiliau o fewn ac ar draws y meysydd dysgu?
Dyfnhau dealltwriaeth o’r 5 hyfedredd gan sicrhau eu bod yn sail i waith rhesymu trawsgwricwlaidd.
Blaenoriaethau 2024-2025 Cwricwlwm
I ba raddau y mae'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno'r cwricwlwm yn cynnwys dulliau cipio cynnydd dysgwyr?
Gwreiddio y system tracio mewnol a chreu meincnodau ar gyfer pob maes trawsgwricwlaidd.
I ba raddau y mae'r ysgol yn darparu ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?
Addasu a mireinio ein gweithdrefnau Addysg, a Chydberthynas a Rhywioldeb. Gweithredu’r cynllun clwstwr a sicrhau bod y cyfleoedd wedi eu mapio yn glir ar draws y meysydd dysgu a phrofiad ac ar draws y continiwwm dysgu.
I ba raddau y mae'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno'r cwricwlwm yn cynnig profiadau dysgu eang a chytbwys?
Cynllunio yn fwy bwriadus ar gyfer addysgu disgyblion am hanes a phrofiadau cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl LHDTC+.
Ydy pob dysgwr yn gwneud cynnydd priodol ar hyd y continiwwm dysgu mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd?
Datblygu a gwreiddio Platfform Cynnydd yr ysgol.
Ydy’r dysgwyr yn trosglwyddo eu dysgu rhwng gwahanol feysydd dysgu a phrofiad?
Ail edrych ar y cynllunio er mwyn sicrhau bod prosiect pwrpasol ar ddiwedd y cysniad sy’n dyfnhau‘r dysgu
I ba raddau ydy dysgwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau o fewn y Meysydd?
Continiwwm digidol i gael ei gyflwyno i’r staff sy’n cyd fynd gyda’r fframweithiau digidol. Staff i weithredu’r continiwwm ac i fesur effaith yn dymhorol.
Blaenoriaethau 2024-2025 ADY, Lles a Chynhwysiant
I ba raddau y mae'r ysgol yn monitro ac adolygu cynnydd, cyrhaeddiad a lles dysgwyr ag ADY?
Parhau i ddatblygu darpariaeth Jigso yr ysgol gan edrych ar fapio effaith ymyriadau.
I ba raddau y mae'r ysgol yn defnyddio cyfraniadau'r gymuned a phartneriaid eraill i ddatblygu ei gweledigaeth ar gyfer dysgu, addysgu a'r cwricwlwm?
Sefydlu Hwb cymunedol i’r gymuned yn yr ysgol. Trefnu gweithdai wythnosol i rieni a’r gymuned leol.
I ba raddau y mae'r athrawon yn cyfrannu at ddysgu proffesiynol y staff yn yr ysgol a thu hwnt?
Sefydlu Cwlwm Mentora yn yr ysgol ar gyfer rhannu arfer dda rhwng y cynorthwywyr.
I ba raddau y mae'r ysgol yn diwallu anghenion dysgwyr ag ADY a sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd y dylent?
Datblygu ymhellach darpariaeth y Cwtch gan werthuso effaith yr ymyriadau lles ar gynnydd a chyrhaeddiad.
I ba raddau y mae'r ysgol yn ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd dysgwyr ag ADY a'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt?
Sefydlu Fforwm Rieni yn yr ysgol er mwyn rhoi cymorth i rieni.