Mae seiliau ein gweledigaeth ar gyfer Ysgol Treganna yn gorwedd yn yr “ysgol fechan yn y ddinas fawr” lle gychwynnodd ein taith nôl yn 1987.

Ein Gweledigaeth yn Ysgol Treganna

Mae seiliau ein gweledigaeth ar gyfer Ysgol Treganna yn gorwedd yn yr “ysgol fechan yn y ddinas fawr” lle gychwynnodd ein taith nôl yn 1987. Bellach rydym wedi tyfu i fod yn ysgol o 700 o ddisgyblion wedi rhannu yn dair cymuned dan arweiniad ein dirprwyon cynorthwyol. Mae 22 o ddosbarthiadau yn Nhreganna wedi’u trefnu i hyrwyddo’r profiad dysgu gorau posibl i’ch plentyn. Ein gweledigaeth fel ysgol yw darparu'r safonau addysg a chefnogaeth uchaf posibl i'n holl ddisgyblion lle mae gan bob disgybl ac aelod o'r tîm gyfleoedd niferus i gyflawni a rhagori ar ei botensial lle nad oes nenfwd.

Ein gwerthoedd craidd: Tri Treganna

Teulu

Mae ein cymunedau dysgu yn fodd ymarferol o sicrhau teimlad o berthyn, gofal a natur deuluol gyson ac mae ffyniant disgyblion a’u lles wrth wraidd popeth a wnawn yma yn Nhreganna. Cydweithiwn gyda theulu eang ein cymuned i gynnig profiadau ysbrydoledig i’n disgyblion gan hyrwyddo cwricwlwm byw, cyfredol ac uchelgeisiol sy’n tanio dychymyg ein disgyblion ac yn meithrin eu chwilfrydedd.

Cymreictod

Mae Cymreictod, yr iaith, a’r diwylliant Cymreig yn rhan annatod o’n gweledigaeth.Ond credwn yn gryf mae ein dyletswydd yw dysgu mwy nag iaith i’n disgyblion. Mae’n bwysig ein bod yn trochi pob un disgybl yn niwylliant ein gwlad gan sicrhau eu bod yn cael amrediad o brofiadau fydd yn eu galluogi i fod yn Gymry sy’n falch o’u gwlad, eu traddodiadau a’u hiaith.

Uchelgeisiol

Yn Ysgol Treganna mae ein diwylliant yn un o bosibilrwydd ac nid ydym yn rhoi ffiniau ar yr hyn sy’n bosibl. Rydym yn dathlu ac yn adeiladu ar gryfderau pob unigolyn, ac yn darparu cyfleodd i bawb i gyrraedd a goresgyn eu potensial. Rydym yn ymfalchio yng nghreadigrwydd a chwilfrydedd ein disgyblion ac mae disgwyliadau uchel yn sylfaen i’r oll i ni’n gwneud.