Nod ein hysgol yw darparu amgylchedd dysgu sy'n galluogi pob dysgwr i wneud y gorau o'i botensial. Anelwn at adnabod a datblygu cryfderau penodol dysgwyr, nodi meysydd anhawster, a chynnig cymorth sensitif ac effeithiol.
Mae ystafell ddosbarth sydd yn ddyslecsia cyfeillgar o fudd i bob dysgwr. Mae llawer o'r strategaethau a ddefnyddir yn llwyddiannus gyda dysgwyr dyslecsig hefyd yn gwella dysgu disgyblion eraill, a chyda'r cymorth priodol, gall dysgwyr ag anawsterau llythrennedd neu ddyslecsia ddatblygu eu galluoedd, tyfu mewn hyder a chyflawni eu potensial.
Mae’r ysgol yn dilyn canllawiau’r Awdurdod Lleol (ALl) ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr ag anawsterau llythrennedd / dyslecsia, ac rydym:
- yn gwerthfawrogi anghenion pob dysgwr ac yn arddangos agwedd bositif tuag at ddysgwyr sydd â dyslecsia neu anawsterau llythrennedd
- yn meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr
- yn meddu ar lefelau priodol o ddarpariaeth/adnoddau a ddefnyddir yn effeithiol
- yn cydnabod fod cyflawniadau dysgwyr yn gyfrifoldeb ar bawb
Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn debygol y bydd nifer o ddysgwyr ym mhob dosbarth yn profi anawsterau dyslecsig, a’n nod yw:
- nodi anawsterau dysgu penodol / dyslecsig yn gynnar
- dangos ymrwymiad i ddiwallu anghenion dysgwyr ag anawsterau llythrennedd / dyslecsia
- cyd-weithio’n agos â rhieni
- cynnig cefnogaeth briodol o fewn y dosbarth, neu yn ystod sesiynau grŵp bach, os oes angen
- datblygu banc o adnoddau
- datblygu ymhellach ymwybyddiaeth a gwybodaeth staff o strategaethau priodol, gan roi sylw arbennig i weithredu strategaethau ystafell ddosbarth ymarferol a all fod o fudd i bob dysgwr, yn ogystal â’r rhai ag anawsterau llythrennedd / dyslecsia
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.