Ymfalchïwn yn ethos cynhwysol, gofalgar a chefnogol ein hysgol. Caiff pob dysgwr ei werthfawrogi, ac fe gefnogir anghenion amrywiol ein dysgwyr â sensitifrwydd. Mae hyn yn cynnwys rhoi sylw arbennig i’r ddarpariaeth ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn yr ysgol, a’r hyn y maent yn ei gyflawni.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i:
- gynnwys dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a’r rheiny sy’n wynebu rhwystrau byrdymor, yn llwyddiannus
- hyrwyddo addysg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan roi sylw i’r hyn sydd o bwys i’r plentyn, a’r hyn sydd yn bwysig ar ei gyfer
Cyfathrebu â Theuluoedd / Partneriaeth Rhieni
Mae dysgwyr yn ganolog i bopeth a wnawn a chredwn yn gryf fod gweithio gyda theuluoedd a sicrhau cydweithrediad rhieni yn allweddol ar gyfer meithrin perthynas lwyddiannus ag unrhyw ddysgwr. Rydym wedi ymrwymo i sefydlu a chynnal perthnasoedd da â theuluoedd ein dysgwyr ac yn cydnabod mor bwysig yw’r bartneriaeth rhwng y cartref, yr ysgol a’r Awdurdod Lleol. Rhoddir gwybod i rieni am gynnydd eu plentyn ac fe’u hanogir i chwarae rhan weithredol wrth weithio tuag at dargedau a bennwyd.
Rydym hefyd yn annog rhieni i gysylltu os oes unrhyw beth yn eu pryderu. Dylent drafod y rhain â’r athro dosbarth yn gyntaf, a fydd yn rhoi gwybod i’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, os oes angen.
Cyngor a/neu Gymorth gan Asiantaethau Allanol
Pan fydd y cynnydd yn llai na’r disgwyl, mae’n bosib na fydd addysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys gwahaniaethu ac ymyraethau arferol, safonol, yn ddigon i fodloni anghenion pob dysgwr. Pan fydd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu arfer ysgol, neu i fynd i’r afael ag anghenion unigol dysgwr, bydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol yn cydweithio ag asiantaethau allanol a thimoedd arbenigol yr Awdurdod Lleol (ALl), gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol y GIG.
Os penderfynir bod angen Cynllun Datblygu Unigol (CDU), neu atgyfeiriad at asiantaeth allanol ar ddysgwr, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â rhieni ac yn cydweithio’n agos â hwy ac unrhyw asiantaeth neu dîm perthnasol.