Tyfu ar y Cyd â’r Gymuned

Ein Hwb Cymunedol

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi lansiad ein hwb cymunedol newydd sbon, Y Nyth.

Fel ysgol, ymdrechwn i fod wrth galon y gymuned, a’n nod yw datblygu sgiliau cydweithredol i alluogi cyfraniad effeithiol i’n cymuned leol, a’r byd ehangach. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu perthnasoedd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a chefnogaeth. 

Bydd cyfleoedd di-ri drwy gydol y flwyddyn ysgol i ymwneud â’r hwb, gan gynnwys: 

  • gweithdai i rieni er mwyn darparu cyngor a gwybodaeth ar sut i gefnogi dysgu yn y cartref
  • boreau coffi rheolaidd er mwyn i deuluoedd gyfarfod a chymdeithasu â chyd-aelodau o’r gymuned
  • digwyddiadau codi arian a drefnwyd ac a gynhelir gan ein Cymdeithas Rhieni ac Athrawon (CRhA)

Rydym hefyd yn croesawu rhieni i’r ysgol i siarad am eu gwaith, ac i rannu sgiliau ac arbenigedd yn eu meysydd diddordeb (e.e., celf a chrefft, coginio, gwaith coed, garddio ayb). Os oes gennych unrhyw beth y gallwch ei gynnig, rhowch wybod. 

Amserlen Y Nyth

Rhagfyr

Ionawr

Chwefror

Mawrth

Ebrill

Mai

Mehefin

Gorffennaf