Rydym yn awyddus i sefydlu grwpiau amrywiol i helpu rhieni ac i gryfhau cysylltiadau.
Beth fydd pwrpas y fforymau amrywiol?
Nod y fforymau fydd rhoi cyfle i rieni gyfarfod a rhannu profiadau, yn ogystal â dysgu am wasanaethau lleol a derbyn gwybodaeth a fydd, o bosib, yn berthnasol iddynt drwy siaradwyr gwadd.
Pa drefn fydd ar y cyfarfodydd?
Bydd trefniadau’n cael eu penderfynu gan aelodau’r Fforwm yn ystod y cyfarfod cyntaf.
Syniadau:
- Amser ac amlder. Unwaith bob hanner tymor?
- Hyd. 45 munud, a dim mwy nag un awr?
- Agenda/rhaglen. I’w rannu wythnos o flaen llaw?
- Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Mi fydd hyn yn bwysig iawn!
Pwy fydd yr aelodau?
- Rhieni, cyn rhieni, gofalwyr, neiniau, a theidiau Ysgol Treganna.
- Cynrychiolaeth gan Staff a Llywodraethwyr yr ysgol.
- Ni fydd uchafswm ar gyfer nifer yr aelodau.
Awtistiaeth / ADHD
Dyma fanylion ein Fforwm cyntaf.