Mae Therapi Chwarae yn ymyrraeth therapiwtig sydd wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi plant ar draws sbectrwm eang o anawsterau ers blynyddoedd lawer.

Mae Therapi Chwarae yn helpu plant i ddeall y pethau y maent wedi’u profi a’r ffordd y maent yn teimlo amdanynt. Gall blentyn wneud hyn drwy ail-greu neu ail-chwarae profiadau neu feddyliau anodd, naill ai gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau chwarae gwahanol, neu drwy chwarae â’r Therapydd Chwarae. Gall hyn helpu’r plentyn i wneud synnwyr o’i feddyliau a’i deimladau. 

Mae Therapi Chwarae yn cynnig man diogel lle gall plant archwilio a mynegi eu teimladau a’u profiadau. Mae hyn yn hybu gwytnwch ac yn eu galluogi i ddarganfod golwg mwy gobeithiol o’u byd. 

Mae ein Therapydd Chwarae, Ivana, yn aelod achrededig a chofrestredig o Gymdeithas Therapyddion Chwarae Prydain (BAPT). Mae hyn yn golygu ei bod hi’n dilyn canllawiau arfer da a chod moeseg proffesiynol a osodwyd gan y corff proffesiynol hwn. 

Mae Ivana’n gweithio yn yr ysgol yn ystod tymor yr hydref.