Rydym fel ysgol wedi ymrwymo i greu amgylchedd dysgu sy’n gynhwysol, yn meithrin gwytnwch, ac sy’n hybu annibyniaeth.

Bydd pontio llyfn (o ysgol i ysgol, neu o flwyddyn i flwyddyn) yn galluogi dysgwr i gyrraedd eu potensial. Mae hyn yn golygu y byddant:

  • yn cael eu hanghenion holistig wedi’u nodi yn gynnar
  • lle bo’n briodol, yn cael cymorth amlasiantaethol mewn da bryd, a’r cymorth hwnnw yn effeithiol wrth hyrwyddo eu hanghenion addysgol, yn ogystal â’u lles personol
  • yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd dysgu amrywiol

Mae’r camau pontio a ddangosir isod yn nodi lefel y cymorth y bydd ei angen ar ddysgwr yn ystod y cyfnod pontio. 

Pontio Cynhwysol  

  • Trefniadau pontio cynhwysol sydd ar gael i bob dysgwr e.e.,  
    • cyfleoedd i ymweld â’r ysgol ar adegau gwahanol e.e., bore, prynhawn, amser cinio
    • cyfleoedd i dreulio amser yn yr ystafell ddosbarth newydd
    • nosweithiau agored a chyfleoedd i edrych o gwmpas amgylchedd yr ysgol
    • cwrdd â’r athro/staff

Pontio wedi’i Dargedu 

  • Cymorth wedi’i dargedu ar gyfer dysgwyr y nodwyd bod ganddynt angen sy’n dod i’r amlwg/angen dynodedig (sydd wedi’i fonitro o fewn trefniadau presennol yr ysgol) e.e.,
    • trefnu ymweliadau ychwanegol
    • creu llyfryn o ffotograffau a gwybodaeth i helpu i baratoi at symud
    • cefnogaeth weledol (amserlen weledol, cardiau Nawr a Nesaf ayb)
    • cyfathrebu â’r rhieni/cartref (llyfrau cyswllt ayb)

Pontio wedi’i Adolygu

  • Cymorth wedi’i dargedu wrth adolygu’r pontio ar gyfer dysgwyr sydd â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) e.e.,
    • gweithgareddau/gweithdai pontio mewn grwpiau bychain

Pontio Dwysach 

  • Cymorth dwysach i ddysgwyr y nodwyd bod ganddynt anawsterau difrifol, cymhleth, cyson a pharhaus e.e.,
    • ymuno’n raddol, os oes angen
    • dilyn diddordebau penodol y plentyn

Bydd anghenion y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael eu diwallu ar y lefel gyntaf. Pan fo cymhlethdod yr anghenion yn cynyddu, bydd y trefniadau ychwanegol ar bob lefel yn ymgorffori trefniadau’r lefel flaenorol. Bydd hyn yn sicrhau fod dysgwyr yn derbyn y cymorth priodol sy’n diwallu lefel eu hangen unigol hwy.