Hafan Ddiogel i Ddysgu a Thyfu
Ein Hwb Lles
Diffinnir ein Cwtch fel amgylchedd dysgu sydd wedi ei gynllunio’n benodol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion emosiynol a chymdeithasol ein dysgwyr. Fe ganolbwyntir ar feithrin sgiliau a fydd yn lleihau neu’n chwalu rhwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu, ac yn sgil hynny’n eu galluogi i brofi llwyddiant yn ôl yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n ystafell ddosbarth bach, ar wahân, sy’n darparu amgylchedd diogel, wedi’i strwythuro.
Sefydlir ein Cwtch o gwmpas pum prif bwrpas:
‘Cwtch Clyd’: Sesiynau boreol ar gyfer dysgwyr bregus er mwyn ceisio adnabod rhwystrau a chynnig cysur a pharodrwydd i ddysgu.
‘Cwtch Cysur’: Sesiynau ar gyfer unigolion neu grwpiau o blant sy’n profi anhawster o ran llythrennedd emosiynol a/neu ryngweithio cymdeithasol.
‘Cwtch Cilio’: Ystafell ddiogel yn ystod y dydd i helpu dysgwyr i reoli eu hemosiynau.
‘Cwtch Cymdeithasu’:Cyfres o glybiau amser cinio sy'n cynnig cymorth a chysur i ddysgwyr sy’n ei chael hi’n anodd cyd-chwarae a chymdeithasu.
‘Cwtch Cyfathrebu’: (ar gyfer rhieni/gofalwyr): Cyfres o gyfarfodydd er mwyn adeiladu perthynas ac adnabod rhwystrau i ddysgu tu hwnt i ffiniau’r ysgol.
Hyderwn felly fod cefnogaeth ac ymyraethau’r Cwtch yn:
- helpu dysgwyr i ddeall eu hemosiynau a’u teimladau’n well
- helpu dysgwyr i deimlo’n gyfforddus wrth rannu unrhyw bryderon neu ofidiau
- helpu dysgwyr yn gymdeithasol i ffurfio a chynnal perthnasoedd
- hybu hunan-barch a sicrhau bod dysgwyr yn gwybod eu bod o werth
- annog dysgwyr i fod yn hyderus ac i ddathlu pwy ydyn nhw
- helpu dysgwyr i ddatblygu gwydnwch emosiynol ac i reoli anawsterau
Os hoffech ymweld â’r Cwtch, mae croeso i chi gysylltu â Swyddfa’r Ysgol.