Gweledigaeth Cwricwlwm Ysgol Treganna
Ein gweledigaeth fel ysgol yw darparu'r safonau addysg a chefnogaeth uchaf posibl i'n holl ddisgyblion lle mae gan bob disgybl ac aelod o'r tîm gyfleoedd niferus i gyflawni a rhagori ar ei botensial lle nad oes nenfwd.
Mae’r gymuned yn rhan annatod o’n cynefin. Cydweithiwn gyda theulu eang ein cymuned i gynnig profiadau ysbrydoledig i’n disgyblion gan hyrwyddo cwricwlwm byw, cyfredol ac uchelgeisiol sy’n tanio dychymyg ein disgyblion ac yn meithrin eu chwilfrydedd. Mae’r cyd berthynas weithredol yma yn ganolog i fywyd ysgol Treganna wrth i botensial pob disgybl gael ei feithrin yn yr ysgol ac yn y gymuned tu hwnt.
Yn sgil ein llwyddiannau ar lwyfan yr Eisteddfod mae profiadau allgyrsiol creadigol yn allweddol, ac yn datblygu hyder a mentergarwch ein disgyblion. Mae Cymreictod, yr iaith, a’r diwylliant Cymreig yn rhan annatod o’n gweledigaeth sy’n ein galluogi i feithrin disgyblion hyderus sy’n ymfalchïo yn eu hiaith a’u diwylliant.
Rydym yn annog arloesedd ac mae ein cwricwlwm yn galluogi ein disgyblion i wthio’r ffiniau a chydweithio ar brosiectau byw er mwyn llwyddo. Bydd pob disgybl yn cael ei herio ac mae disgwyliadau uchel yn rhan annatod o’n hysgol ble does dim nenfwd.
Yn sgil ein pwyllgorau disgyblion rydym yn annog pob disgybl i gyfrannu at fywyd ein hysgol ac i wneud penderfyniadau strategol. Cant eu hannog i wneud dewisiadau fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hysgol, eu cymuned, eu gwlad a’r byd ehangach. Yn sgil ein sesiynau Dathlu Dysgu, gwerthfawrogwn natur aml ddiwylliannol ein hardal a’r brif ddinas, gan annog disgyblion parchus a gofalgar sy’n dathlu eu gwahaniaethau.
Yn Nhreganna rydym yn ymfalchïo yn ein hunaniaeth a bydd ein cwricwlwm yn dathlu ein hieithoedd, ein hanesion, ein diwylliant a’n cynefin. Ymfalchïwn yng nghreadigrwydd a chwilfrydedd ein disgyblion ac mae disgwyliadau uchel yn sylfaen i gwricwlwm ein hysgol.
Cydweithio gyda'r holl rhanddeiliaid i gynllunio ein cwricwlwm
Rydym wedi cydweithio gyda’n holl rhanddeilaid er mwyn sicrhau bod y 4 diben yn rhan annatod o’n gweledigaeth a bod y dysgwyr, y staff, y rhieni a'r llywodraethwyr yn rhan allweddol o’r broses o greu ein cwricwlwm newydd.
Dechreuwyd ar y broses o gynllunio ein cwricwlwm newydd wrth gynnal trafodaethau gyda'r disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr ar:
- Pam? Pam ein bod yn canolbwyntio ar y sgiliau yma? Pam ein bod yn cyflwyno’r cysyniad yma? Pam ein bod yn cyflwyno’r profiadau yma? Pam i ni’n targedu’r sgiliau yma?
- Y llwybr dysgu. Sut fydd y disgyblion yn dysgu? Sut fydd y disgyblion yn teithio ar hyd eu continwwm dysgu? Sut allwn sicrhau profiadau pwrpasol dysgu sy’n targedu’r disgybl unigol? Beth sydd angen ar y disgybl unigol er mwyn gwneud cynnydd ar hyd y llwybr dysgu?
- Y dysgu dwys. Sut allwn sicrhau bod dyfnder a dealltwriaeth yn y dysgu? Sut allwn
sicrhau bod ein disgyblion yn meddu ar wybodaeth ddwys a dealltwriaeth gref? Sut allwn sicrhau bod pob plentyn yn cael eu herio?
- Cynnydd. Sut allwn sicrhau fod pob disgybl yn gwneud cynnydd? Sut fyddwn yn mesur y cynnydd yma o safbwynt ein cwricwlwm newydd?
Ein Cwricwlwm Ysgol
- Yn Ysgol Treganna rydym yn anelu at ddatblygu dysgwyr hyderus, uchelgeisiol, gwybodus a chreadigol. Ein prif flaenoriaethau yw galluogi ein dysgwyr i wireddu’r pedwar diben a’u paratoi ar gyfer dysgu parhaus.
- Mae canllawiau Cwricwlwm Cymru yn ddatganiad clir o’r hyn sy’n bwysig wrth ddatblygu addysg eang a chytbwys. Y pedwar diben yw’r weledigaeth a’r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Ein nod yw gosod disgwyliadau uchel a galluogi pob dysgwr i gyfawni ei lawn botensial.
- Mae canllawiau Cwricwlwm Cymru yn ddatganiad clir o’r hyn sy’n bwysig wrth ddatblygu addysg eang a chytbwys. Y pedwar diben yw’r weledigaeth a’r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Ein nod yw gosod disgwyliadau uchel a galluogi pob dysgwr i gyfawni ei lawn botensial.
- Ein nod yw gosod disgwyliadau uchel a galluogi pob dysgwr i gyfawni ei lawn botensial.
- Yn Ysgol Treganna rydym yn cynnig addysg eang a chytbwys sy’n galluogi pob dysgwr i wneud cysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd dysgu a phrofiad a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd a chyd-destunau newydd.
- Rydym yn archwilio beth mae’r pedwar diben yn ei olygu i bob dysgwr a chredwn yn gryf y dylid paratoi a dylunio cwricwlwm sy’n cyfrannu at ddatblygiad pob un o’n dysgwyr wrth iddynt gymhwyso’r pedwar diben ar draws y cwricwlwm.
- Fel ysgol mae gennym ddealltwriaeth glir o pam mae pethau’n cael eu dysgu a’u gwneud. Mae dyluniad y cwricwlwm yn gofyn i ni resymu pam mae dysgu penodol yn bwysig a beth yw hanfod y dysgu hwnnw.
- Ein nod yw darparu cwricwlwm a fydd yn canfod ein disgyblion i ragori ar eu potensial.
- Rydym yn cefnogi dilyniant ar hyd y continwwm dysgu ac yn sicrhau eu bod yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau.
- Mae cwricwlwm ein hysgol yn eang a chytbwys ac yn cynnwys cyfleoedd dysgu o fewn ac ar draws pob un o’r Maes Dysgu a Phrofiad.
- Mae’n cwmpasu’r cysyniadau yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn darparu cynnydd priodol yn unol ag egwyddorion cynnydd.
- Mae hefyd yn cyd-fynd â gofynion gorfodol o addysgu Cymraeg, Saesneg a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Yr elfennau gorfodol o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh).
- Yr elfennau gorfodol o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh).
Cwricwlwm i Gymru
Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i ddatblygu i gyflawni pedwar diben allweddol.
Ei nod yw annog ein disgyblion i fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog
- Unigolion iach, hyderus
- Gyfranwyr mentrus, creadigol
- Ddinasyddion moesol, gwybodus
Mae gan Gwricwlwm Cymru chwe maes dysgu.
- Celfyddydau mynegiannol sy’n ymgorffori celf, dawns, drama a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth. Bydd yn annog creadigrwydd a, meddwl beirniadol ac yn cynnwys perfformiad.
- Dyniaethau sy’n ymgorffori daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Bydd yn seiliedig ar brofiadau dynol a bydd hefyd yn ymdrin â diwylliant Cymru.
- Iechyd a lles: mae hyn yn ymdrin ag agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol bywyd, gan helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a’u lles a dysgu sut i reoli dylanwadau cymdeithasol.
- Gwyddoniaeth a thechnoleg sy’n ymgorffori bioleg, cemeg, ffiseg, gwyddoniaeth gyfrifadurol, a dylunio a thechnoleg.
- Mathemateg a rhifedd: yn y blynyddoedd cynnar, bydd hyn yn cynnwys dysgu trwy chwarae. Yn nes ymlaen, bydd yn cynnwys gweithio’n annibynnol ac ar y cyd ag eraill.
- Leithoedd, llythrennedd a chyfathrebu: bydd hyn yn cynnwys Cymraeg a Saesneg, llenyddiaeth ac ieithoedd rhyngwladol. Bydd dysgu Cymraeg yn orfodol o hyd (fel iaith ychwanegol i blant nad ydyn nhw’n defnyddio’r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf).
Asesu a Chynnydd
Mae dilyniant ac asesu effeithiol yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cyflawni gweledigaeth ein hysgol.
Mae asesu a chynnydd yn rhan o bob profiad dysgu ac addysgu yn Ysgol Treganna ac yn cynnyws hunan asesu, asesu pâr, adborth athrawon ac asesiadau unigol y dysgwyr.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu yn seiliedig ar dystiolaeth i alluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol. Mae hyn yn caniatau i ni lunio darlun holistaidd o gynnydd pob plentyn.
Mae'r disgyblion yn cydweithio gyda'u hathrawon i ddeall eu cynnydd ac i adnabod y cam nesaf yn eu taith ddysgu.
Rydym yn herio'r disgyblion,yn eu cefnogi ac yn myfyrio ar gynnydd dros amser er mwyn mesur cynnydd grwpiau o ddysgwyr.
Mae ein cwricwlwm ysgol wedi’i ategu gan yr egwyddorion cynnydd sy’n disgrifio’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd o fewn y 6 maes dysgu a phrofiad ac rydym yn ystyried cynnydd yn y 6 maes dysgu yn erbyn datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.
Mae ein trefniadau asesu yn sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhwng dysgwyr ac athrawon ac mae’n seiliedig ar fyfyrio parhaus, beth yw'r cam nesaf a beth sydd angen gwneud er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial.
Gwerthuso ein Cwricwlwm
Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein dysgwyr ac yn gwireddu gweledigaeth ein hysgol.
Drwy gydol y flwyddyn bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanarfarnu yn cael eu trefnu er mwyn gwerthuso ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein cwricwlwm a’r anghenion gofynnol.
Byddwn yn gweithio o fewn ein hysgol, ar draws y clwstwr ac mewn partneriaeth â llywodraethwyr, y consortia rhanbarthol a'r awdurdod lleol, er mwyn sicrhau continwwm dysgu o ansawdd uchel.