Gofal i blant ar ôl ysgol o 15.30 i 18.00 yn ddyddiol.
Clwb Cymer Ofal
Mae Cymer Ofal yn darparu gofal plant ar ȏl ysgol o ddiwedd y diwrnod ysgol tan 6.00yp, dydd Llun i ddydd Gwener, ar gyfer disgyblion yn nosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6. Mae clwb Cymer Ofal wedi ei leoli yn Ysgol Treganna. Byddwn hefyd yn darparu gofal i blant y dosbarth Meithrin o fis Tachwedd 2024.
Ar ddiwedd y diwrnod ysgol, mae’r plant yn cwrdd yn neuadd yr ysgol, lle’r ydym yn cymryd cofrestr ddyddiol, darparu byrbryd a chynnig amrywiaeth o weithgareddau i’r plant ddewis nes iddynt gael eu casglu gan eu rhiant/gwarcheidwad. Cynigir amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer yr amrediad o oedrannau a chyfnodau o ddatblygiad, a chyfleoedd ar gyfer chwarae creadigol a heriol, yn ogystal a gweithgareddau hamddenol. Rydym yn cynllunio’r rhain gyda’r plant er mwyn sicrhau mwynhad a datblygiad pellach o’u sgiliau cymdeithasol ac ymddygiad.
Rydym wedi llunio polisiau a threfniadaeth y clybiau yn unol ȃ gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Adroddiadau Arolwg
Ewch i https://digidol.arolygiaethgofal.cymru/cyfeiriadur/gwasanaeth/SIN-00004167
Am wybodaeth pellach ewch i
clwb@cymerofal.co.uk | Clwb Treganna: 07943 991007