Senedd Ysgolion Cynradd Cymraeg Caerdydd
Rydym wedi sefydlu senedd i ysgolion Cynradd Cymraeg Caerdydd. Y bwriad yw annog annibyniaeth a mentergarwch a rhoi amryw o gyfleoedd i holl ysgolion Caerdydd i gydweithio gyda ni ar brosiectau a strategaethau gwahanol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhan weithredol o’r prosiect ac mae holl gyfarfodydd ein senedd “Ein Senedd Ni” yn cael eu cynnal yn Siambr Tŷ Hywel, Bae Caerdydd. Rydym yn cyfarfod bob tymor a dyma’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru.