Catrin Evans
Neges y Pennaeth
Croeso i Ysgol Treganna. Rwy'n hynod falch o fod yn Bennaeth Ysgol Treganna ac arwain tîm o staff ymroddedig a brwdfrydig sy'n rhoi anghenion ein plant yn gyntaf.
Fel pennaeth yr ysgol, rwyf am greu diwylliant o bosibilrwydd yn Ysgol Treganna ble mae parodrwydd i ddysgu, i gofleidio syniadau newydd, i anelu am ragoriaeth yn rhan allweddol o weledigaeth yr ysgol."




